Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 11 Tachwedd 2020
Amser:
09.00
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Sarah Beasley
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
SeneddIechyd@senedd.cymru
------
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae'r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor at ddibenion diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv
Rhag-gyfarfod anffurfiol (09.00-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
(09.30)
2 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Chell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru
(09.30-11.00)
Dr Rob Orford, Cyd-Gadeirydd y Gell Cyngor Technegol a Phrif Gynghorydd Gwyddonol (Iechyd) – Llywodraeth Cymru
Fliss Bennee, Cyd-Gadeirydd y Gell Cyngor Technegol – Llywodraeth Cymru
Dr Brendan Collins, Cadeirydd, Is-grŵp Modelu Polisi; Aelod TAC, Pennaeth Economeg Iechyd – Llywodraeth Cymru
Craiger Solomons, Cadeirydd, Fforwm Modelu Cenedlaethol Cymru Gyfan; Aelod TAC, Prif ddadansoddwr, Cyfarwyddiaeth Iechyd Sylfaenol a Gofal Iechyd – Llywodraeth Cymru
Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Phrif Weithredwr GIG Cymru – Llywodraeth Cymru
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
(11.00)
4 COVID-19: Trafod y dystiolaeth
(11.00-11.30)